BAROD!
.jpg) Mae'n bleser gynnon ni gyhoddi fod ein halbwm newydd 'Windblown' wedi ei orffen, ac fe fydd y copiau cyntaf yn ein dwylo cyn hir.
Ry'n ni wedi cael modd i fyw yn gweithio ar y gerddoriaeth, ac ry'n ni'n edrych ymlaen at ei rhannu gyda'n ffrindiau a'n ffans mwyaf eiddgar - ie gleu, chi!
I roi rhagflas ichi, ry'n ni'n cynnig trac am ddim o'r albwm, 'Lady of the Woods', un o bedair can ar 'Windblown'.
Rhowch glic yma i ymweld a'r dudalen albwm benodol ar ein gwefan, lle mae dolen i lawrlwytho'r gan.
A rhag ofn nad yw un trac yn ddigon am y tro, gallwch hefyd wrando am ddim i recordiad newydd o'n trac offerynnol poblogaidd "Huzzah!" ar yr un dudalen, neu ar hafan ein gwefan. Rhwng y ddau ddarn, bydd modd ichi gael syniad o sut mae'r recordiad cyfan yn swnio - a gobeithio byddwch chi mor eiddgar ac ydyn ni!
DYDDIAD RHYDDHAU
Mae'n bleser i gyhoeddu bydd 'Windblown' ar gael yn swyddogol o Hydref 29ain 2012.
O'r dyddiad yna, bydd modd i chi ei brynu ar-lein drwy'n gwefan, neu wrth nifer o'r prif werthwyr ar-lein; neu os oes well gynnoch chi'r stryd fawr, bydd y record yn HMV ac ar gael drwy'ch gwerthwr anibynnol lleol hefyd. Ry'n ni'n falch iawn o gael gweithio gyda chwmni Proper Music Distribution, a fydd yn sicrhau fod y record ar gael mewn torreth o siopau ledled y wlad.
Ond y ffordd gyflymaf o gael gafael arno siwr iawn yw drwy archebu ymlaen llaw yn uniongyrchol wrthym ni; fel "Diolch!" arbennig i'n dilynwyr agosaf, fe fyddwn ni'n sicrhau bod unrhyw archebion rhag llaw yn cyrraedd ar Hydref 5ed, tair wythnos gyfan cyn y dyddiad rhyddhau swyddogol.
TAITH 'WINDBLOWN': Hydref 2012 & Gwanwyn 2013.
Ry'n ni'n ddiolchgar dros ben i Gyngor Celfyddydau Cymru, dan nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru, a'n cynorthwyodd i hybu 'Windblown' a 'Thaith Windblown'. Diolch o galon!
Bydd taith fawreddog i ddathlu cyhoeddu'r albwm newydd, ac i chwarae'n cerddoriaeth newydd yn fyw, drwy gydol yr hydref - tymor sydd ynghlwm wrth thema'r abwm newydd, sydd yn ei dro yn tarddu o'r ffaith bod Mabon yn hen enw am gyhydnos yr hydref.
Wedi cyfres o gyngherddau gwledig yn Notts, Lincs and Leics ym mis Medi a Hydref (gyda pherfformiadau yn Hinckley, Botcheston, Stapleford, Norwell, Burton Joyce, Ketton, Lea a Harmston - ac un ynGlasbury ymMhowys!), bydd 'Taith Windblown' Jamie Smith's MABON yn ymweld a:
5 Hydref - Derby - Gwyl Werin Derby, The Assembly Rooms
18 Hydref - Cernyw - Gwyl Lowender Peran, Perranporth
19 Hydref - Cernyw - Praa Sands Community Centre
26 Hydref - Stroud - Prema Arts Centre, Uley
27 Hydref - Exeter - Phoenix Arts Centre
28 Hydref - Gwlad yr Haf - Neuadd Pentref Priddy, ger Wells (cyngerdd prynhawn)
2 Tachwedd - Arberth - Neuadd y Frenhines (Queen's Hall)
3 Tachwedd - Berwyn - Neuadd Ceiriog, Llanarmon Dyffrun Ceiriog, ger Llangollen
4 Tachwedd - Caerdydd - **CYNGERDD LAWNS** - Canolfan Mileniwm Cymru
(Cyngerdd am ddim yn y prynhawn)
6 Tachwedd - Caerwrangon - Huntingdon Hall, Crowngate
7 Tachwedd - Llundain - The Slaughtered Lamb, Clerkenwell
8 Tachwedd - Bryste - Colston Hall 2
9 Tachwedd - Hampshire - Ashford Arts Centre, Fareham
10 Tachewdd - Hampshire - Forest Arts Centre, New Milton
11 Tachwedd - Ffrainc - Festival Goutte du Large, Port en Bessin
2 Rhagfyr - Gateshead - The Sage (cyngerdd dau-fand gyda Breabach)
5 Rhagfyr - Henffordd - The Courtyard Arts Centre
Basai'n hyfryd eich gweld chi wrth i ni fynd ati i rannu ein cerddoriaeth mwyaf newydd a chyffrous.
|